Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Medi 2023
Amser:
09.30 -
11.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13647
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Jonathan Price, Llywodraeth Cymru Julian Revell, Llywodraeth Cymru Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Emma Watkins, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Rhag-gyfarfod Preifat (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) - Amserlenni diwygiedig - 30 Mehefin 2023
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol – 6 Gorffennaf 2023
2.3 PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ystadegau alldro cyfraddau Treth Incwm Cymru 2021-22 - 7 Gorffennaf 2023
2.4 PTN 4 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gorwariant cyllideb ysgolion - 11 Gorffennaf 2023
2.5 PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth ariannol i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ei hystyried wrth gynllunio eu cyllideb - 12 Gorffennaf 2023
2.6 PTN 6 - Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: Amserlen Cyllideb Ddrafft 2024-25 - 17 Gorffennaf 2023
2.7 PTN 7 - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - 13 Gorffennaf 2023
2.8 PTN 8 - Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 - 27 Gorffennaf 2023
2.9 PTN 9 - Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2023-24: Ymateb Llywodraeth Cymru – 11 Awst 2023
2.10PTN 10 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio - 23 Awst 2023
2.11PTN 11 - Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru - 1 Medi 2023
2.12PTN 12 - Llythyr at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Taliad costau byw - 11 Gorffennaf 2023
2.13PTN 13 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Taliad costau byw - 1 Awst 2023
2.14PTN 14 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol – 7 Medi 2023
2.15PTN 15 – Llythyr gan Archwilio Cymru: Hysbysu am ddyddiadau cau archwilio - 3 Awst 2023
2.16Papur i’w nodi 16 - Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Papurau tystiolaeth yn cefnogi Cyllideb Ddrafft 2024-25 - 8 Medi 2023
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4, 5, 7, 8, 9 a 10
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 - Briff technegol gyda’r Prif Economegydd
4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio economaidd a chyllidol gan Jonathan Price, Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru; a Julian Revell, Pennaeth Dadansoddi Cyllidol, Llywodraeth Cymru.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 - Briff technegol gyda’r Prif Economegydd: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
6 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 - Craffu cyn y Gyllideb
6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth; a Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid.
6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:
· Nodyn ynghylch Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC), yn canolbwyntio ar sut mae treth a gesglir drwy CTIC wedyn yn cael ei defnyddio yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru.
7 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 - Craffu cyn y Gyllideb: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
8 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Y dull craffu ar y gyllideb
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd ar y dull o graffu ar y gyllideb a’r llythyr ymgynghori.
9 Adolygu protocol y gyllideb
9.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar yr adolygiad o brotocol y gyllideb a chytunodd i ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys.
10 Gwaith yn y dyfodol: Cynllunio strategol
10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar gynllunio strategol.